Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adsefydlu
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC349-1225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/12/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 06/01/2026
Teitl cyflogwr
Clerc Ward
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Glerc Ward i ddarparu cymorth gweinyddol hanfodol i Uned Adsefydlu Mynydd Mawr yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.
Mae Mynydd Mawr yn uned â 15 o welyau sy'n arbenigo mewn adsefydlu. Rydym yn gofalu am gleifion a ddaw o amrywiaeth o arbenigeddau, yn cynnwys Meddygaeth Gyffredinol, Llawfeddygaeth Gyffredinol, Trawma ac Orthopedeg, a'r rheiny'n gleifion a gafodd eu derbyn i'r arbenigeddau hynny mewn cyflwr acíwt. Mae'r uned yn ymdrechu i ddarparu profiad cadarnhaol a safonau gofal uchel i gleifion a'u teuluoedd.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus amlygu trefniadaeth gref, cyfathrebu manwl gywir, a sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n ddiwyd, yn llawn cymhelliant, ac yn canolbwyntio ar fanylion i gynorthwyo gydag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol. Mae'r rhain yn cynnwys diweddaru systemau'r ysbyty, gan drin data'n effeithlon, rheoli cofnodion meddygol, sicrhau bod atgyfeiriadau'n cael eu hanfon mewn modd amserol, ac ateb galwadau ffôn.
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu i gefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus yn ei rôl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo'r staff i gyflawni dyletswyddau clinigol sy'n berthnasol i'r gwaith o reoli'r ward, e.e. gweithredu'n unol â negeseuon ffôn/llungopïo nodiadau achosion ar gyfer trosglwyddo cleifion, ac ati.
Dylai'r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfrifiadurol rhagorol a dull da dros y ffôn, ynghyd â'r gallu i ddiweddaru cofnodion, ffeilio, delio â phost sy'n cyrraedd ac yn cael ei anfon, trefnu apwyntiadau ac archebu ambiwlansys.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06/01/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg o safon dda
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG: Microsoft a system e-bost
Meini prawf dymunol
- Profiad o waith swyddfa/gweinyddol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i ddysgu gweithdrefnau gweinyddol/clercol/y ward trwy hyfforddiant yn y swydd
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Y gallu i weithio i derfynau amser
- Y gallu i weithio mewn tîm
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gareth Phillips
- Teitl y swydd
- Senior Charge Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554779395
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Prif Nyrs Ward Iau Claire Mandry
Uned Adsefydlu Mynydd Mawr
01554 779395
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





