Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Administration
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-AC045-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Plant Ynys-y-Plant.
Tref
Y Drenewydd
Cyflog
£26,300 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Cynorthwyydd Gweinyddu Gwasanaethau Plant

Gradd 2

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel Cynorthwyydd Gweinyddol o fewn ein tîm Gwasanaethau Plant.

Bydd y rôl hon yn bennaf yn cefnogi'r Gwasanaeth Pediatreg Cymunedol, sy'n darparu asesiad, diagnosis a rheolaeth barhaus i blant a phobl ifanc ledled Powys. Darperir y gwasanaeth gan dîm o Bediatregwyr Cymunedol o fewn y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth, Iechyd Menywod a Theuluoedd, gan weithio fel rhan o ddull system gyfan i ddiwallu anghenion iechyd plant a phobl ifanc.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth trwy ddarparu cefnogaeth weinyddol o ansawdd uchel, effeithlon a chyfrinachol i dimau clinigol.

Yn ogystal â chefnogi Pediatreg Cymunedol, byddwch hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol i Wasanaethau Plant ehangach, yn ôl yr angen.

Mae hwn yn gyfle ardderchog i unigolyn brwdfrydig a threfnus ymuno â thîm cyfeillgar a chefnogol, gan gyfrannu at ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ledled Powys.

Prif ddyletswyddau'r swydd

• Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr adran. Ateb galwadau ffôn, cymryd negeseuon yn gywir. 

• Ymdrin ag ymholiadau arferol ac arbenigol mewn modd dymunol a chymwynasgar, cyfleu gwybodaeth berthnasol i'r adrannau/person perthnasol, cyfeirio at eraill yn ôl yr angen. 

• Diweddaru systemau electronig a phapur fel WCCIS (System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru) a WPAS (System Gweinyddu Cleifion Cymru), casglu gwybodaeth, dosbarthu a chofnodi post ac ati.

• Llungopïo a phrosesu geiriau dogfennau, llythyrau, e-byst, cofnodion ac adroddiadau pan fo angen.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://pthb.nhs.wales/working-for-us/Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Manyleb y person

Qualifications and Experience

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel TGAU neu lythrennedd/rhifedd ar Lefel 1 neu gyfwerth
  • Cymhwyster RSA/OCR II neu sgiliau dangosadwy cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • NVQ Gweinyddu Busnes Lefel 2
  • Gwybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o gynhyrchu gohebiaeth
  • Profiad o wasanaeth cwsmeriaid / cymorth pwynt cyswllt cyntaf
  • Hyfedredd profedig wrth ddefnyddio meddalwedd TG
  • gwybodaeth am arferion swyddfa a'r gallu i sefydlu prosesau newydd
Meini prawf dymunol
  • profiad blaenorol mewn amgylchedd swyddfa

Skills and Attributes

Meini prawf hanfodol
  • Dangos gwerthoedd PTHB
  • Gweithio fel rhan o dîm neu fel unigolyn
  • Agwedd gadarnhaol a'r gallu i weithredu ar adborth
  • Cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol
  • Y gallu i fod yn gwrtais wrth ddelio â phobl anodd, ddiamynedd neu ofidus
Meini prawf dymunol
  • Lefel 1 Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca James
Teitl y swydd
Service Improvement and Business Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg