Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymuned
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 9 mis (Cytundeb tan 22/03/2026 - Cyfnod Mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 14 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR401-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Parc Caia
Tref
Wrecsam
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Cymuned - Tîm Nyrsio Ardal Parc Caia

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 31/03/2026 oherwydd cyfnod mamolaeth.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer swydd Nyrs Gymunedol Band 5 dros dro yn gweithio 14 awr yr wythnos yn Nhîm Nyrsio Ardal Parc Caia. Swydd dros dro yw hon am 9 mis ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth yn dechrau o 15 Mehefin 2025.

Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn nyrs gofrestredig gyda thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Rhaid i chi fod yn frwdfrydig a hunan gymhelliol a meddu ar y gallu i weithio fel rhan o dîm yn ogystal ag yn annibynnol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad cyfnerthol o waith yn y gymuned ac ymwybyddiaeth o'r swyddogaeth sy'n esblygu o fewn Nyrsio Ardal.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog ynghyd â’r gallu i roi gofal sy’n glinigol effeithiol yn y Tîm Nyrsio Ardal.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ein nod yw darparu gofal safonol wedi’i gynllunio i’r cleifion. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal yn y gymuned. Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o’r tim nyrsio ardal a gydag asiantaethau eraill I ddarparu gofal sy’n effeithiol yn glinigol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NMC Cofrestredig
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. POVA, Amddiffyn Plant, Cymorth Bywyd Canolraddol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn cofrestru mewn gofal nyrsio uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio cyfannol
  • Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Gweithredu arfer syn seiliedig ar dystiolaeth

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth glir o gontract gofal
  • Y gallu i ddogfennu manylion yn glir ac yn gywir
  • Dealltwriaeth glir o'r broses ganiatad
  • Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am bolisi cofnodi digwyddiadau
  • Ymwybyddiaeth o Bolisiau Gwybodaeth am bolisi adrodd am ddigwyddiadau

Personol/Agwedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol
  • Y gallu i weithio dan bwysau
Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kelly McLeod
Teitl y swydd
Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859605
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg