Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ceidwad tŷ
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol: RHAN AMSER
- Oriau
- Rhan-amser - 7.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS755-122
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/12/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Swyddog cadw tŷ
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rhan Amser Swyddog cadw tŷ
- Cefnogi Rheolwr y Ward wrth redeg y Wardiau o ddydd i ddydd, ynghyd â chyflawni tasgau penodol i ddiwallu anghenion cleifion unigol fel y pennir gan Reolwr y Ward / Dirprwy Reolwr y Ward neu'r Nyrs â Chyfrifoldeb.
- Bod yn gyfrifol am ddyletswyddau cadw tŷ cyffredinol ar y wardiau.
- Cydweithio'n agos â chontractwyr a gwasanaethau cymorth a monitro ansawdd safonau a chywiro unrhyw fethiannau ar y cyd â Rheolwyr y Ward.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Mewn partneriaeth â Gwasanaethau Domestig, sicrhau bod amgylchedd glân, diogel a chyfforddus yn cael ei gynnal a bod offer cleifion yn cael eu dadlygru yn unol â Fframweithiau/Tasgau Cyfrifoldeb Glanhau BIPBC.
- Cymryd rhan yn yr archwiliadau ysbyty glân, a gweithredu ar ddarganfyddiadau yn eich maes cyfrifoldeb.
- Helpu i gadw'r uned yn lân a thaclus bob amser.
- Gan weithio mewn partneriaeth â Nyrsys Cofrestredig, sicrhau bod yr holl ardaloedd troli yn lân, taclus ac wedi'u cyflenwi'n llawn, ac unwaith y bydd troli yn wag, sicrhau bod yr holl fesurau'n cael eu cymryd i baratoi at y claf nesaf.
- Cysylltu â'r adran ystadau i ddatrys problemau e.e. sinc wedi blocio, peipiau'n gollwng
- Ar y cyd â'r Gwasanaethau Domestig sicrhau bod dadlygru cawod fflysio systemau dŵr yn digwydd bob dydd, ac yn cael ei gofnodi yn y ddogfennaeth gytunedig.
- Cysylltu ag adrannau’r ysbyty i sicrhau darparu gwasanaethau prydlon a phriodol i'r uned e.e. Llieiniau.
- Cymryd rhan mewn archebu cyflenwadau clinigol ac anghlinigol digonol, eu monitro a'u cynnal i sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cost.
- Golchi eitemau arbenigol e.e. cynfasau llithro
- Sicrhau bod 'ailgyflenwad' bob meddyginiaeth yn cael eu harchebu a'u storio'n gywir.
- Cynnal archwiliadau sicrwydd ansawdd yn rheolaidd gan fonitro glanhau, a’r safonau ansawdd amgylchedd y claf yn unol â Chredydau am Lanhau. Cofnodi darganfyddiadau'n defnyddio gwaith papur y cytunwyd arno.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Chymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ lefel 3 Gofal Uniongyrchol neu brofiad cyfatebol
- Addysg hyd at safon TGAU (graddau A i C) neu gymhwyster cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau mewn pynciau perthnasol (neu'n gweithio tuag atynt) er enghraifft Tystysgrif Hylendid Bwyd; neu Dystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol.
- Profiad o ymdrin ag aelodau'r cyhoedd.
- Profiad o gynllunio a threfnu gweithgareddau bob dydd ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o gwblhau rôl Swyddog Cadw Tŷ.
- Profiad o weithio i sefydliad GIG.
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o grwpiau proffesiynol.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd ward brysur.
Nodweddion Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu dangos empathi at gleifion a'u teuluoedd/ffrindiau
- Cwrtais, gofalgar
- Gallu gweithio fel rhan o dim
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau a chyfarwyddyd
Gwybodaeth/Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau bysellfwrdd sylfaenol, sgiliau TG, e-bost, word, PAS, Porth Clinigol Cymru
- Gallu blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun heb oruchwyliaeth uniongyrchol
- Gallu dangos sgiliau ymarferol i eraill, angen ymhelaethu
Gofynion uchwanegol
Meini prawf hanfodol
- Gweithio shifftiau fel bo'n ofynnol
- Gallu gweithio mewn amgylchedd llym dynamig
Meini prawf dymunol
- Parodrwydd i weithio ym mhob ardal
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Begbie
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 848070
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector







.png)
