Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Rheolwr Arweiniol
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC663-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Adran Achosion Brys, Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Arweiniol y Gyfarwyddiaeth
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn brwdfrydig ac awyddus i weithio fel rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gofal Brys yn Ysbyty Wrecsam Maelor fel Rheolwr Arweiniol y Gyfarwyddiaeth.
Yn gweithio'n agos â'r timau clinigol a rheolaethol, bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gyflawni targedau gweithredol, ariannol, llywodraethu a thargedau gweithgareddau o fewn ei arbenigeddau. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gael sgiliau cyfathrebu arbennig a dull rhagweithiol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Rheolwr Arweiniol yn arwain y gwaith o gydlynu'r targedau Mynediad a Chyfeiriad i Driniaeth (RTT) ar gyfer eu harbenigeddau yn y safle Ysbyty Llym, gan weithio ag uwch gydweithwyr rheoli eraill yn BIPBC i sicrhau bod yr amseroedd aros gorau bosibl yn cael eu cyflawni. Bydd y Rheolwr Arweiniol yn sicrhau bod swyddogaethau’r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu fel un gwasanaeth o ran perfformiad, gan weithio i amcanion a safonau a rennir. Bydd deilydd y swydd yn arwain, rheoli a datblygu perfformiad yr arbenigedd (fel perfformiad ED, RTT) fel bod y gwasanaeth yn hyblyg a gallu ymateb i bwysau gweithredol.
Bydd deilydd y swydd yn hwyluso'r gwaith o weithredu'r holl brosesau mandadol ar gyfer ansawdd, diogelwch cleifion ac effeithiolrwydd clinigol yn yr arbenigedd a bod unrhyw risgiau i ddarparu amcanion craidd yn cael eu lleihau drwy fframwaith llywodraethu cadarn. Bydd hyn yn cynnwys datblygu systemau gwybodaeth a chyfathrebu a chydweithio'n agos ag eraill i hyrwyddo system rheoli perfformiad cadarn.
Mae'r Rheolwr Safle Arweiniol yn cymryd rhan yn y rota ar-alwad gweithredol rheolaethol (Efydd).
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Yn gyfrifol am ddarpariaeth weithredol gwasanaethau penodol yn y Gyfarwyddiaeth, yn cynnwys datblygu, gweithredu a monitro systemau, polisïau a gweithdrefnau yn effeithiol ac effeithlon.
Gweithio â'r Tîm Rheoli Safle ac Uwch Adrannol, timau clinigol, cynrychiolwyr cleifion a sefydliadau partner i ddarparu targedau gweithredol, ariannol, perfformiad, llywodraethu a gweithgarwch.
Bod yn gyfrifol am ddatblygu systemau Rheoli Perfformiad a nodi, dadansoddi a rhoi gwybod i Fwrdd y Gyfarwyddiaeth am berfformiad RTT a thargedau sylweddol eraill ar draws yr arbenigedd.
Gweithio â chydweithwyr Meddygol, Nyrsio a Bydwreigiaeth i ddarparu metrigau allweddol ar gyfer y gwasanaeth.
Cynrychioli'r arbenigedd mewn pwyllgorau PBC eang perthnasol.
Gyda Rheolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth a Dirprwy Reolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth, rheoli perfformiad gweithgareddau'r Arbenigedd i sicrhau bod amcanion a osodir gan Lywodraeth Cymru ac yn gorfforaethol yn BIPBC yn cael eu cyflawni, gan ddechrau camau cywiro pan fo angen i fodloni targedau gweithgarwch a mynediad a chyflawni balans ariannol.
Gweithio â rheolwyr y gwasanaeth a chlinigwyr i sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith a'u darparu yn cynnwys trafod a darbwyllo Meddygon Ymgynghorol a staff uwch eraill i newid arferion gwaith.
Yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar gynnydd y Gyfarwyddiaeth yn erbyn y cynlluniau hyn i'r Cyfarwyddiaeth.
Arweinydd penodol yr arbenigedd dros ddadansoddi data, yn cynnwys dadansoddi ffigurau ar gyfer triniaethau cleifion allanol, cyfraddau trawsnewid meddygon ymgynghorol a meincnodi ag arfer gorau mewn mannau eraill.
Arwain elfennau arbenigol y broses Gynllunio Strategol a Gweithredol ar gyfer RTT, a chrynhoi'r cynlluniau yn unol ag arweiniad cenedlaethol a lleol, sy'n adlewyrchu / cefnogi cynlluniau ac amcanion lleol a chenedlaethol.
Cymryd rhan yn y rota ar alwad lefel Efydd i sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg yn effeithiol dros 24 awr, gan gymryd cyfrifoldeb dros reoli gweithredol y tu allan i oriau.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd ôl-radd (gradd Meistr) neu brofiad ymhlyg sydd wedi'i ddangos o weithio mewn rôl glinigol neu reoli cymdeithasol gymhleth gyda sgiliau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu gofal cwsmer o lefel uchel i wella profiad, lleihau dadlau a datrys gwrthdaro
- Profiad o reoli gweithlu a chyllid mewn sefydliad cymhleth
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu rheoli ystod eang o brosiectau a materion nad ydynt yn gysylltiedig o ddydd i ddydd
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol ag unigolion ar bob lefel yn y sefydliad ac ar lefel uwch gyda sefydliadau allanol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nathan Rogers
- Teitl y swydd
- Interim Directorate General Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858543
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector