Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-AC062-0426W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Plas Gororau,
Tref
Wrecsam,
Cyflog
£26,300 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Derbynnydd/Gweinyddydd

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Dderbynnydd weithio o fewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Wrecsam, wedi'i leoli ym Mhlas Gororau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu cefnogaeth dderbynfa a chlerigol gynhwysfawr i'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl, gan ddangos modd cwrtais, proffesiynol a sensitif bob amser. Disgwylir i ddeiliad y swydd flaenoriaethu, rheoli ei amser a dangos gradd uchel o hyblygrwydd.

Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Oherwydd natur y dyletswyddau, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynnal cyfrinachedd llym a disgwylir iddo ddelio â chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol/clinigol a defnyddwyr gwasanaeth eraill dros y ffôn ac wyneb yn wyneb gyda chwrteisi a disgresiwn bob amser. Bydd deiliad y swydd yn archebu apwyntiadau ac yn delio ag ymholiadau cleifion, felly mae angen sgiliau cyfathrebu rhagorol a dull ffôn hyderus. Mae angen sgiliau TG hyfedr (gan gynnwys profiad o Microsoft Office) hefyd gan y bydd deiliad y swydd hefyd yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gynorthwyo gyda rhedeg y practisau o ddydd i ddydd yn esmwyth, gan gynnwys rhywfaint o fewnbynnu data. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn lleoliad gofal iechyd neu amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid ond gellir rhoi hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd cywir.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda o addysg gyffredinol
  • CGC lefel 2 mewn gweinyddu neu gymhwyster / profiad cyfwerth
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Cymhwyster TG neu brosesu geiriau (e.e. RSA 2 neu brofiad cyfatebol)

Profiad / Sgiliau / Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddefnyddio Microsoft Office
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd derbynfa neu swyddfa brysur
  • Profiad o ddelio a'r cyhoedd ar y ffon ac wyneb yn wyneb
  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd cyflym sy'n newid yn gyflym
  • Y gallu i fewnbynnu gwybodaeth ar system gyfrifiadurol gyda chyflymder a chywirdeb
  • Y gallu i ddelio a nifer o dasgau gwahanol ar yr un pryd
  • Y gallu i gyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol a phob lefel o staff ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Y gallu i ddatrys problemau 'yn y fan a'r lle' gan ddefnyddio barn eich hun
  • Dealltwriaeth o gyfrinachedd sy'n gysylltiedig a swydd
  • Gwybodaeth am ystod o brosesau gweinyddol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio a System TG (e.e. EMIS, Oracle, WPAS)
  • Profiad o weithio mewn meddygfa feddygon teulu neu amgylchedd swyddfa'r GIG
  • Sgiliau llawfer
  • Gwybodaeth am dermau meddygol

Gofynion Perthnasol Eraill

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio fel rhan o aelod tim aml-fedrus integredig heb oruchwyliaeth uniongyrchol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth gan gynnwys gweithio ar safleoedd eraill pan fo angen
  • Welsh speaker (level 3)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca Roberts
Teitl y swydd
Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 858205
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Paula Smith

Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Meddygfeydd a Reolir, Dwyrain

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg