Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Therapïau
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol: 37.5 Awr Yr Wythnos
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-AHP001-0326
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£56,514 - £63,623 Y Flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Therapydd Clinigol Arweiniol - CEM Berwyn

Gradd 8a

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn dymuno penodi Therapydd Clinigol Arweiniol talentog a threfnus. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymwyseddau clinigol ac arweinyddiaeth ôl-raddedig profedig sylweddol mewn Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, neu Therapi Iaith a Lleferydd. Bydd gennych sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i ddatrys nifer o broblemau sy'n newid yn gyflym yng nghyd-destun carchardai.

Rhaid bod gennych radd neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig mewn Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu Therapi Iaith a Lleferydd, cymhwyster Lefel Meistr (e.e., Uwch Ymarfer Clinigol) a chofrestriad proffesiynol gweithredol gyda'r HCPC.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gyfrifol am:

·           Reoli tîm bach sy'n cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Therapyddion Iaith a Lleferydd a Ffisiotherapydd.

·           Cynllunio, arwain a datblygu gwasanaethau clinigol ar draws y tri maes Therapi yn ogystal â darparu hyfforddiant a chyngor clinigol i staff o ddisgyblaethau eraill fel arbenigwr yn eich maes ymarfer.

·           Sicrhau bod y tîm yn darparu asesiad arbenigol o safon uchel a thriniaeth briodol i ddefnyddwyr gwasanaeth, y bydd gan rai ohonynt anghenion gofal cymhleth iawn.

·           Sicrhau bod pob Therapi yn cael ei ddarparu gan ddefnyddio egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, arfer gorau cyfredol, sgiliau arbenigol a rhesymu clinigol datblygedig.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus. 

Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch  eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig mewn Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu Therapi Iaith a Lleferydd.
  • Cofrestriad HCPC proffesiynol cyfredol
  • Tystiolaeth o ddatblygu clinigol manwl yn y maes arbenigol perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o gorff proffesiynol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol ôl-radd sylweddol yn y GIG
  • Profiad helaeth mewn meysydd clinigol perthnasol
  • Profiad o reoli pobl / adnoddau

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Samantha Keane
Teitl y swydd
Deputy Head of Healthcare
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978523132
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg