Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Band 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawn-amser
  • Gweithio hyblyg
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
026-CVB-361
Cyflogwr
Citizen Voice Body for Health and Social Care Wales (operating name Llais)
Math o gyflogwr
Public (Non NHS)
Gwefan
Caerdydd ar Bro Morganwwg
Tref
Caerdydd
Cyflog
£23,159 - £24,701 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/10/2023 23:59

Teitl cyflogwr

Citizen Voice Body for Health and Social Care Wales (operating name Llais) logo

Cynorthwyydd Gweinyddol

Band 3

Byddwch yn rhan o Llais a helpwch ni i godi pŵer a dylanwad lleisiau pobl i lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion pawb.

Mae'r rôl hon gyda Llais. Mae Llais yn gorff cenedlaethol, annibynnol newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais i bobl Cymru yn y modd y maent yn derbyn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Trosolwg swydd

Ein rôl yw ymgysylltu â chleifion a chyhoeddus Cymru a gwrando arnynt. Rydym yn gwneud hyn drwy estyn allan at bobl yn eu cymunedau lleol, clywed eu barn a deall eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn rhoi adborth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn helpu i lunio a dylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol.

Ydych chi’n angerddol am wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Mae cyfle gwych wedi dod ar gael yn Llais Caerdydd ar Bro Morganwwg Rhanbarthol, Band 3, 37.5 oawr yr wythnos.

Mae’r swydd hon wedi’I lleoli yn bennaf yn swyddfa Caerdydd a’r Fro. Mae hon yn rôl hybrid, gyda gweithio o bell a swyddfa.

Mae’r gallu I gyfarthrebu yn Gymraeg yn dymunol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu gwasanaeth gweinyddol i'r swyddfa mewn meysydd penodol a chefnogi'r swyddfa ar draws ystod eang o dasgau gweinyddol.  Darparu cefnogaeth weinyddol i gyfarfodydd a grwpiau Llais yn ôl yr angen.

Gweithio i'n sefydliad

Mae pawb yn Llais yn credu y dylai pobl a chymunedau yng Nghymru fyw bywydau hapus, iach lle maen nhw'n cael yr iechyd a'r gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw mewn ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw. Credwn mai’r unig ffordd y gall hyn ddigwydd yw drwy godi pŵer a dylanwad eu lleisiau wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar bobl.

Dyna le rydych chi'n dod i mewn! Ydych chi’n chwilio am y cyfle i ymuno â sefydliad newydd, angerddol, a chyfrannu at wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru?

Rydym yn chwilio am bobl angerddol a galluog o bob cefndir sy'n dod â phrofiadau bywyd gwahanol a fydd yn helpu i newid y ffordd yr ydym yn meddwl. Rydym yn chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol a all ddod â sgiliau, profiadau byw a safbwyntiau ffres i'n gwaith. 

Disgrifiad Swydd Prif Gyfrifoldebau

Mae disgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm wrth yr hysbyseb hwn, a fyddech cystal â'i adolygu cyn cyflwyno'ch cais.

Os ydych yn barod am yr her ac eisiau bod yn rhan bwysig o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a bod gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod y swydd hon, cysylltwch â: Nadia Frangos  [email protected] 029 20  750112

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nadia Frangos
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg