Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Oncoleg
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawn-amser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-NMR150-0323
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Whitchurch, Cardiff
- Cyflog
- £33,706 - £40,588 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
Teitl cyflogwr

Prif Nyrs y Ward
Band 6
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
- Yn gyfrifol am yr arweinyddiaeth glinigol o fewn yr adran Cleifion Allanol a Fflebotomi.
- Gweithredu fel person â gofal dynodedig sy'n goruchwylio'r holl staff a'u llwyth gwaith.
- Yn gyfrifol am sicrhau bod hanfodion gofal yn sail i'r holl ofal a ddarperir.
- Yn gyfrifol am oruchwylio ac asesu sgiliau clinigol cymhwysedd staff a myfyrwyr clinigol.
- Cymryd rhan ac arwain prosiectau i wella gofal cleifion, gwella gwasanaethau, 1000 o fywydau a mwy, Trawsnewid Gwasanaethau Canser a diogelwch cleifion.
- Sicrhau bod safonau glendid yr amgylchedd yn cael eu cynnal yn yr adran Cleifion Allanol a'u bod yn hyrwyddo atal a rheoli heintiau'n effeithiol, gan sicrhau y glynir wrth yr holl bolisïau perthnasol.
- Rheoli gofod clinig ac adnoddau staff o ddydd i ddydd.
- Dirprwyo ar gyfer rheolwr nyrsio OPD i fynychu cyfarfodydd Trawsnewid Gwasanaethau Canser, Iechyd a Diogelwch, cyfarfodydd Urddas Cleifion, a chyfarfodydd uwch nyrsys.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Darparu gwybodaeth gymhleth am driniaeth Oncoleg ynghylch diagnosis, prognosis, cymhlethdod a rheolaeth bellach.
- Meithrin perthynas dda gyda'r claf a'i deulu.
- Gweithio o fewn y tîm amlddisgyblaethol mewn clinigau tîm safle-benodol, gan gynnig cyngor a chymorth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fewnol ac yn allanol.
- Sicrhau bod cleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cefnogol priodol o fewn ac yn allanol i Ganolfan Ganser Felindre a bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei chyfleu i'r gwasanaethau hyn gyda chydsyniad y cleifion.
- Sgiliau cyfathrebu uwch sydd eu hangen i gefnogi torri newyddion drwg a chyfathrebu gwybodaeth gymhleth.
- Bydd yn ofynnol iddynt drefnu a chadeirio cyfarfodydd staff rheolaidd ac adrodd i staff clinigol am unrhyw wybodaeth am wasanaeth a datblygiad.
- Sgiliau asesu cynhwysfawr sy'n cynnwys cymryd hanes – asesu cleifion Oncoleg sâl acíwt a chysylltu â thîm asesu cleifion Gwasanaeth Oncoleg Acíwt.
- Cymryd rhan mewn archwiliadau clinigol lleol a phrosiectau ymchwil, ac mae'n gallu dehongli a gweithredu'r dystiolaeth o fewn yr amgylchedd clinigol.
- Bydd yn ymwneud ag ymchwilio ac adrodd am ddigwyddiadau clinigol – DATIX.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym yn ffodus hefyd, o letya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1999, ac mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ydy'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy: https://felindre.gig.cymru/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- 1st Level Registered General Nurse
- Degree in Oncology or equivalent experience
Meini prawf dymunol
- MSc or a willingness to obtain one
- Diploma in Management
Experience
Meini prawf hanfodol
- Oncology experience
- Evidence of continuing professional development.
Meini prawf dymunol
- Evidence of change management agent
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate advanced level of communication skills.
- Demonstrate competent advanced clinical skills.
Meini prawf dymunol
- IT skills including Canisc
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jeanette Miller
- Teitl y swydd
- Outpatient Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- Jeanette.Miller@wales.nhs.uk
- Rhif ffôn
- 02920 615888
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector