Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Rhewmatoleg
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC073-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/04/2026
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Meddygol - Rhewmatoleg
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Ysgrifennydd Meddygol ymuno â’r Adran Rhewmatoleg yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Rydym yn gobeithio penodi unigolyn brwdfrydig, trefnus a dibynadwy i weithio 37.5 awr yr wythnos mewn swydd barhaol.
Yn y rôl hon, byddwch yn darparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol cynhwysfawr i'r Meddyg Ymgynghorol Rhewmatoleg, gan fod yn Gynorthwyydd Personol iddo a sicrhau bod y gweithrediadau o ddydd i ddydd yn rhedeg yn ddidrafferth.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd drawsgyflenwi o bell ar gyfer ysgrifenyddion meddygol eraill ledled y Bwrdd Iechyd yn ôl yr angen, gan sicrhau parhad y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gadw cofnodion cywir â llaw ac mewn systemau electronig, a rhaid iddo allu rheoli gwybodaeth sensitif a chyfrinachol am gleifion megis gohebiaeth glinigol, adroddiadau ymchwilio, a chanlyniadau profion.
Mae dealltwriaeth dda o derminoleg feddygol neu ofal iechyd, ynghyd â phrofiad o ddefnyddio systemau cronfa ddata cleifion yn hanfodol. Un o ofynion y rôl yw defnyddio system adnabod llais T-Pro yn rheolaidd, ynghyd â thrawsgrifio a throsglwyddo gwybodaeth yn gywir i systemau'r Bwrdd Iechyd, sy’n cynnwys System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) a Phorth Clinigol Cymru (WCP).
Deiliad y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl gyfathrebu ar ran y Meddyg Ymgynghorol a'r tîm ehangach, gan ymateb mewn modd proffesiynol i ymholiadau gan feddygon teulu, cleifion a pherthnasau, ymgynghorwyr, ac ysbytai eraill.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Cynhelir y cyfweliadau ar 02/04/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster ysgrifenyddol/gweinyddol lefel 3 neu brofiad cyfatebol amlwg, ynghyd â phrofiad o ystod lawn o ddyletswyddau yn gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol meddygol blaenorol
- Gwybodaeth ymarferol am systemau cronfeydd data cleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad o’r GIG
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith, bodloni terfynau amser a gweithio dan bwysau
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Y gallu i weithio mewn modd annibynnol ac yn rhan o dîm
- Dealltwriaeth dda o bwysigrwydd cyfrinachedd
- Ffordd drefnus o weithio
Meini prawf dymunol
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jill Bryant
- Teitl y swydd
- Medical Secretary Coordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783383
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





