Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arbenigwr Deintyddol (Deintyddiaeth Gofal Arbennig)
Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - C
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
HYSBYSEB
Rydym yn edrych i benodi Arbenigwr mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig (Band C)
Cyflog Band C - £89,174 - £102,479
Wedi ei leoli: Canolfan Ddeintyddol Alexandra, Rhyl
3.75 oriau'r wythnos sy'n cyfateb i 2 ddiwrnod y mis
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn edrych i recriwtio chwaraewyr tîm sydd yn frwdfrydig, hyblyg,ag yn llawn cymhelliad gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog.
I ddarparu gofal arbennig mewn disgyblaeth clinigol.
I berfformio dyletswyddau fel a nodwyd i gyfarfod anghenion y gwasanaeth.
I ddatblygu a chynnal gwasanaethau wedi ei ddylunio i adnabod cleifion sydd angen triniaeth o fewn yr arbenigedd.
I arwain mewn maes sydd wedi ei nodi o fewn y gwasanaeth fel bo angen.
I ddarparu hyfforddiant a/neu goruchwyliaeth sydd yn gysylltiedig â disgyblaethau arbenigol a pherthynol i ystod o staff.
Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae rhan fwyaf o’r staff wedi ei hyfforddi mewn technegau mewnanadliad tawelyddu. Mae’r gwasanaeth yma ar gael bron ymhob safle, yn cael ei gynnig gan ddeintyddion a therapyddion. Mae gwasanaeth ymdaweliad mewnwythiennol hefyd ar gael, ac mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn gweithredu gwasanaeth anesthesia cyffredinol yn tair Ardal yr Ysbytai Gyffredinol.Rydym yn cael cefnogaeth gan ymgynghorydd Bediatrig Deintyddol Ysbyty Alder Hey.
Ar hyn o bryd rydym yn croesawu tri DCT(1) pob blwyddyn ac mae gennym safle i arbenigwr hyfforddiant mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig.
Mae gwasanaethau estynedig yn cynnwys Gwasanaeth Haen Canolog Llawfeddygaeth Dant- gorfannol a darpariaeth cefnogol (DGA) i tîm Canser Pen a Gwddf (MDT). Darperir hyfforddiant i Therapyddion mewn Mynediad Uniongyrchol ac Mewnanadliad Tawelyddu,ac rydym wedi ymrwymo i ehangu modelau medr gymysgedd. Mae nifer o raglenni ataliol sydd yn hyrwyddo iechyd geneuol yn gweithredu megis: Cynllun Gwên (Rhaglen Gymru gyfan i dargedu plant mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru); Gwên am Byth (Rhaglen Cartrefi Gofal); Gofal y Geg mewn Ysbytai (1000 o fywydau) a rhaglen plant ac oedolion sydd ag anabledd dysg.
Buddion
- Lwfans adleoli ar gael
- Cennad absenoldeb i astudio wedi ei dalu
- Lwfans Hyfforddi Casgliadwy Blynyddol
- Cynllun prydlesu car yn weithredol
- Fe delir am Absenoldeb Blynyddol
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person wedi'i gynnwys gyda phob dogfen bellach.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • Wedi cofrestru yn llawn â’r GDC (Cyngor Deintyddol Cyffredinol)
- • Bagloriaeth mewn llawdriniaeth ddeintyddol neu gyfwerth
- • Wedi cofrestru ar restr arbenigedd y GDC yn berthnasol i’r swydd
- • Prawf o gynnal datblygiad proffesiynol parhaus ar ôl graddio
- • Tystysgrif Hyfforddiant Amddiffyn plant ac oedolion (POVA)*
- • Tystysgrif IRMER/ diogelu ymbelydriad
Meini prawf dymunol
- • Cymhwyster ôl-radd mewn sgil glinigol berthnasol
- • Aelod o sefydliad broffesiynol / Cymdeithas ddysgedig yn berthnasol i’r sgil glinegol
- • Cymhwyster mewn addysg glinigol / cymhwyster dysgu
- • Cymhwyster rheoli
- • ECDL neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad sylweddol o’r CDS,GDS a/neu HDS
- • Profiad rheoli poen a pryder ag sy’n briodol i’r arbenigedd
- • Hanes profedig yn y maes arbenigo
- • Profiad rheoli risg
- • Profiad o bwyllgorau
- • Profiad mewn dysgu, hyfforddiant, goruchwylio a mentora staff
- • Cynhyrchu adroddiadau a/neu bapurau
- • Adolygiad cymheiriaid ac archwiliad clinigol
Meini prawf dymunol
- • Profiad mewn disgyblaethau deintyddol eraill
- • GIG, GDS,neu profiad gofal deintyddiaeth sylfaenol yn y DU
- • Profiad rheoli
- • Profiad Ymchwil
- • • Profiad gweithio gyda therapydd Orthodonteg, therapydd deintyddol/ hylenyddion deintyddol
- • Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau sefydliadol ac arweinyddol: gallu i gyfathrebu â’r tîm drwy ei gymell a’i gefnogi
- • Sgiliau cyfrifiadurol
- • Gallu sefydlu gwasanaeth clinigol ar draws ardal a chynhyrchu adroddiadau
- • Gallu cynllunio’n strategol
- • Hunangymhelliant ac yn gallu bodloni terfynau amser
- • Gallu blaenoriaethu baich gwaith a’i drefnu
- • Sgiliau rhyngbersonol da gyda cleifion, gofalwyr, a cydweithwyr o ddisgyblaethau eraill
- • Abl i arwain yn glinigol, hwyluso arloesiadau newydd a chynorthwyo gyda rheoli newid
Meini prawf dymunol
- • Gallu i gyfathrebu theori a meithrin sgiliau mewn eraill
- • Gwybodaeth o becynnau meddalwedd perthnasol
- • Profiad ymchwil a/neu diddordeb mewn ymchwil sy’n seiliedig ar y gwasanaeth
- • Gwybodaeth a profiad o’r fframwaith ariannol sy’n berthnasol i’r arbenigedd
Addasrwydd Personol
Meini prawf hanfodol
- • Hyblyg a bodlon i ymrwymo i sicrhau canlyniadau a chwrdd a therfynau amser
- • Gosod safonau uchel a chymhelliant i’w cyflawni
- • Yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun
- • Gallu gweithio yn annibynnol
- • Ymagwedd hyblyg at flaenoriaethau a systemau gwaith cyfnewidiol
Meini prawf dymunol
- • Gradd uchel o broffesiynoldeb sy’n arddangosadwy drwy gefnogaeth cyfoedion a rheolwyr
- • Gallu/hyder i werthuso eraill
Cyffredinol
Meini prawf hanfodol
- • • Yn abl i deithio i wahanol fangre ar draws Gogledd Cymru fel bo angen mewn ffasiwn amserol
- • Gwerthusiad o faterion amrywiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb *
Meini prawf dymunol
- • Rhuglder neu wybodaeth da o ran y Gymraeg *
- • Rhuglder mewn iaith fodern tramor (arwahan i Saesneg neu Gymraeg)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqueline Sandra Sandham
- Teitl y swydd
- Clinical Director of NWCDS
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856231
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector