Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Finance
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Oriau craidd 9am i 5pm)
Cyfeirnod y swydd
070-AC076-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bronllys
Tref
Aberhonddu
Cyflog
£58,379 - £65,723 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Prif Reolwr Cyllid

Gradd 8a

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Brif Reolwr Cyllid uchelgeisiol ac arloesol i gyflawni rôl arweinyddiaeth allweddol o fewn Tîm Cyllid Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Gan adrodd yn uniongyrchol i’r Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol, byddwch yn helpu i lunio strategaeth ariannol y sefydliad, arwain gweithgareddau cynllunio ac adrodd ariannol proffil uchel, a darparu cyngor arbenigol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel ledled Powys.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio wrth galon tîm deinamig, gan arwain ar gynllunio ariannol, rhagolygon ariannol, adrodd ar berfformiad, cyflawni cynlluniau arbedion ac arloesedd digidol. Byddwch yn goruchwylio tîm talentog, yn hyrwyddo systemau cyllid modern a gwneud penderfyniadau sy’n cael eu llywio gan ddata, ac yn gweithio’n agos gydag uwch arweinwyr i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol er mwyn sicrhau’r gwerth gorau posibl i gleifion a chymunedau.

Rydym yn chwilio am gyfrifydd cymwysedig CCAB sydd â sgiliau arwain cryf, gweledigaeth strategol a’r gallu i ffynnu mewn amgylchedd cymhleth. Yn gyfnewid, byddwch yn cael profiad o weithredu ar lefel weithredol, ynghyd â’r cyfle i ddylanwadu ar gyfeiriad gwasanaethau’r GIG yn y dyfodol. Os ydych yn angerddol am arweinyddiaeth, trawsnewid a darparu gwerth mewn gwasanaethau cyhoeddus, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Prif Reolwr Cyllid, byddwch yn chwarae rhan arweinyddiaeth ganolog o fewn Tîm Cyllid Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Byddwch yn arwain y gwaith o gydlynu a darparu swyddogaethau cymorth ariannol allweddol, gan gynnwys cynllunio ariannol, adrodd i’r Bwrdd ac i Lywodraeth Cymru, rheolaeth ariannol, a goruchwylio’r Tîm Systemau Cyllid a’r Tîm Cymorth Cyllid. Byddwch hefyd yn darparu cefnogaeth arweinyddiaeth uwch ac yn dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol pan fo angen.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r tîm Cyllid cyfan, uwch arweinwyr a rheolwyr ledled y sefydliad. Mae’r rôl yn hanfodol i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei ddyletswyddau ariannol statudol drwy gynllunio cadarn, rhagfynegi effeithiol, trefniadau llywodraethu cryf a rheoli perfformiad, gan hyrwyddo defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau.

Bydd agwedd allweddol ar y rôl yn cynnwys arwain ar gynllunio ac adrodd ariannol, gan gynnwys datblygu cynlluniau ariannol blynyddol a thair blynedd, cynhyrchu adroddiadau’r Bwrdd a chyflwyniadau monitro. Byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir, yn amserol ac yn edrych tua’r dyfodol, gan helpu’r sefydliad i nodi cyfleoedd, rheoli risgiau a gwneud penderfyniadau gwybodus.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig; ond hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad unrhyw Gymraeg, neu os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau, peidiwch â phoeni: bydd y bwrdd iechyd yn eich cefnogi gyda hyfforddiant.

Rhywfaint o allu i siarad, darllen a/neu ysgrifennu Cymraeg, neu awydd i ddysgu 

Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac.

Mae'r Adran Gyllid yn gweithredu model gweithio hybrid, lle mae pob aelod o'r tîm yn gweithio o'r swyddfa ym Mronllys o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • CCAB Qualified Accountant professional accountancy qualification plus further specialist knowledge training and experience
  • Evidence of Continuous Professional Development
  • Understanding of the NHS, its infrastructure and partner organisations. Understanding of the NHS Financial Management agenda and key issues faced.
Meini prawf dymunol
  • Understanding of developing best practice in the NHS within the UK nations; and of management and leadership best practice developments

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Experience: Financial management in a complex organisation such as the NHS
  • Experience: Working in a multidisciplinary environment. Delivering within challenging financial situations, including financial turnaround/overspend.
  • Aptitude and Abilities; Excellent interpersonal, communication and presentation skills Highly developed analytical, interpretational, and comparative skills capable of dealing with highly complex and sensitive information to support rational decision making Work autonomously and equally effectively as part of a multidisciplinary team. Ability to work on multiple complex tasks simultaneously and produce high quality work within tight deadlines and within resource constraints IT literate with practical computer application skills covering Microsoft products including advanced level of Excel spreadsheets Demonstrable project management skills including work planning, organization, and prioritization Ability to think innovatively and develop new ways of working, continuously striving to improve systems and performance Interpret and apply Financial Reporting Standards & Generally Accepted Accounting Principles
  • Values: Demonstrate the application of professional ethics, Values and judgement in support of the core Values underpinning the Finance Department, ‘professionalism, empathy and respect’ Can demonstrate PTHB Values
  • Other: Ability to maintain resilience and reliability under sustained pressure, to ensure objectives are met timely Ability to travel to meeting within PTHB and potentially national.
Meini prawf dymunol
  • Qualifications and/or Knowledge: Understanding of developing best practice in the NHS within the UK nations; and of management and leadership best practice developments Keeps selfinformed through local and national networks
  • Experience: Extensive NHS finance experience General management experience Experience of undertaking complex business cases
  • Aptitude & Abilities: Some ability to speak, read and/or write Welsh, or an eagerness to learn.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Christian Thomas
Teitl y swydd
Principal Finance Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07754453773
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

If Christian is unavailable, please contact Donna Heatlie

[email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg